Teitl cyflogwr

- Cyfeiriad
-
Ysbyty Gwynedd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2PW - Rhif ffôn
- 01745 448400
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau ysbyty llym, cychwynnol, cymunedol ac iechyd meddwl i boblogaeth o tua 676,000 ar draws chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Caer a Swydd Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,500 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2biliwn. Mae’n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger Y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 ysbyty llym a chymuned arall, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 121 meddygfa a gwasanaethau’r GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr Gogledd Cymru.
Os cewch drafferthion i ymgeisio ar lein, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar rhadffôn 0800 100 900.
Nid oes gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr swyddi gwag wedi'u rhestr ar ein cronfa ddata ar hyn o bryd.